Mae hunangofiant Rhys Meirion wedi bod yn boblogaidd iawn
Mae mwy o bobol wedi prynu llyfrau Cymraeg eleni yn ôl adroddiad blynyddol y Cyngor Llyfrau, a llyfrau print yn dal eu tir yn wyneb bygythiad gan yr e-lyfrau.
O’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, mae gwerthiant y cyngor 5% yn fwy. Roedd cyfnod Nadolig 2013 hefyd wedi gweld cynnydd o 2% o’i gymharu â mis Tachwedd a Rhagfyr y flwyddyn gynt.
Mae’n debyg mai hunangofiant Rhys Meirion fydd yn hosan Nadolig y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg y Nadolig hwn, gan mai dyma’r llyfr sydd wedi gweld y mwyaf o alw dros y tri mis diwethaf.
Ymysg y llyfrau eraill sydd wedi gwerthu’n dda mae hunangofiant Eric Jones a Tommo yn ogystal â nofel Tudur Owen, Y Sw, a Llanw gan Manon Steffan Ross.
‘Darllenwyr hyn’
Wrth drafod y rhesymau pam fod llyfrau print yn parhau i apelio ar y gynulleidfa Gymraeg, dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones:
“Mae gwerthiant e-lyfrau Cymraeg yn eithaf ara’ deg. Mi ydan ni’n dal i gredu ei bod hi’n bwysig paratoi e-lyfrau a dwi’n siŵr y bydd gwerthiant yn datblygu dros gyfnod o amser.
“Ond ar hyn o bryd, does dim dwywaith, mae’r llyfrau print sydd ar y blaen.
“Mae hynny’n dweud cyfuniad o bethe’ – yn gyntaf demograffeg. Mae ganddom ni ddarllenwyr hŷn sydd yn ddarllenwyr mawr ymysg y Cymry Cymraeg.
“Wedyn, mae hunangofiannau, sydd mor boblogaidd, yn fwy apelgar mewn print am eu bod nhw’n cynnwys lluniau.
“Yn olaf, mae gan y Cymry ymlyniad gyda siopau llyfrau. Maen nhw fel rhyw ganolfannau iaith yn ein cymunedau ni ac mae pobol eisiau eu cefnogi nhw am eu bod yn sefydliadau mor bwysig.”