Mae Cronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau wedi cyrraedd £200,000, sef 75% o’r targed.

Mae trigolion ar hyd a lled y dalgylch wedi bod wrthi ers blwyddyn a rhagor yn casglu arian ar gyfer yr Eisteddfod sy’n cael ei chynnal ym Meifod o 1-8 Awst y flwyddyn nesaf.

Yn ôl trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: “Mae’n braf iawn gallu cyhoeddi ein bod ni wedi cyrraedd carreg filltir mor bwysig i’r Gronfa Leol cyn y Nadolig. Gwn bod amryw o’r gwirfoddolwyr lleol wedi gobeithio y byddai modd cyrraedd £200,000 cyn diwedd y flwyddyn, a rhaid eu llongyfarch nhw ar eu gwaith a’u hymroddiad er mwyn gwneud hynny.”

‘Ymateb arbennig’

Meddai Elen Elis: “Mae codi arian sylweddol yn dipyn o her, yn enwedig mewn ardal wledig ac yn ystod cyfnod economaidd anodd. Ond mae pobl Maldwyn a’r Gororau wedi ymateb yn arbennig i’r sialens ac wedi bod wrthi’n trefnu gweithgareddau a digwyddiadau o bob math – a’r cyfan yn enw’r Eisteddfod.

“Rhaid talu teyrnged i’r gwirfoddolwyr lleol, dan arweiniad byrlymus Beryl Vaughan. Mae’u hegni a’u brwdfrydedd yn heintus, ac wedi cydio yn nychymyg pentrefi ac ardaloedd ar hyd a lled y dalgylch.”

Ac mae Elen Elis yn galw ar drigolion Maldwyn i gefnogi’r gwaith codi arian dros y misoedd i ddod: “Wrth gwrs, mae wyth mis i fynd, a bydd y gwaith codi arian yn parhau dros y misoedd nesaf.

“Rydym yn gwybod bod y pwyllgor lleol yn benderfynol o gyrraedd y targed ariannol, a rydym yn galw ar i bobl o bob rhan o Maldwyn a’r Gororau – a’r rheini y tu allan o’r dalgylch swyddogol – i gefnogi’r gwaith ac i sicrhau y bydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 yn un o’r goreuon eto.”