Joe Cocker
Mae’r canwr Joe Cocker wedi marw yn 70 oed.
Roedd ei yrfa wedi parhau dros gyfnod o 40 mlynedd ac mae’n debyg ei fod yn fwyaf adnabyddus am ganu un o ganeuon y Beatles, ‘With A Little Help From My Friends’, ac ‘Up Where We Belong’.
Mae’r cwmni Marshall Arts, fu’n cynrychioli Cocker am fwy na 30 mlynedd, wedi cadarnhau marwolaeth y canwr.
Roedd wedi bod yn dioddef o ganser yr ysgyfaint. Mae’n gadael ei wraig, Pam.