Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn y gwasanaeth coffa
Mae Heddlu’r Alban wedi cyhoeddi enwau’r chwech o bobl fu farw ar ôl i lori golli rheolaeth yng nghanol dinas Glasgow ddoe.
Yn eu plith roedd tri aelod o’r un teulu sef Erin McQuade, 18, ei thaid John Sweeney, oedd yn cael ei adnabod fel Jack, 68, a’i wraig Helen Sweeney, oedd yn cael ei hadnabod fel Lorraine, 69, o Dumbarton.
Ymhlith y bobl eraill fu farw yn y digwyddiad yn Sgwâr George roedd Gillian Ewing, 52, o Gaeredin, Stephenie Tait, 29, o Glasgow a Jacqueline Morton, 51, o Glasgow.
Yn gynharach heddiw daeth cannoedd o bobl ynghyd mewn gwasanaeth arbennig i gofio’r rhai fu farw yn y ddamwain ddoe.
Cafodd 10 o bobl hefyd eu hanafu.
Roedd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yn y gwasanaeth, ynghyd ag arweinydd Llafur yr Alban, Jim Murphy, ac arweinydd y Blaid Geidwadol yn yr Alban, Ruth Davidson.
Dywedodd y Parchedig Stuart Smith bod y digwyddiad trasig “wedi’n heffeithio ni i gyd ac wedi dod a ni at ein gilydd.”