Castell Stormont
Fe gyhoeddwyd y prynhawn ma bod arweinwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi dod i gytundeb ynglŷn â chyfres o faterion dadleuol.

Maen nhw wedi bod yn cynnal trafodaethau yn Stormont dros nos ac yn ystod y bore er mwyn ceisio dod i gytundeb ynglŷn â materion fel baneri a gorymdeithiau.

Daeth y cyhoeddiad am y cytundeb gan Weinidog Materion Tramor Iwerddon, Charlie Flanagan.

Fe ddechreuodd y trafodaethau rhwng y pum prif blaid a Llywodraethau’r DU ac Iwerddon yng Nghastell Stormont am hanner dydd ddoe.

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter dywedodd y Prif Weinidog David Cameron: “Rwy’n hynod o falch bod cytundeb wedi ei wneud a fydd yn caniatáu i Ogledd Iwerddon fwynhau dyfodol mwy ffyniannus a llewyrchus.”

Dywedodd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon ac arweinydd y DUP, Peter Robinson bod y cytundeb yn cydnabod bod angen gwneud gwaith pellach ar nifer o faterion ond dywedodd bod y cytundeb yn un “sylweddol”.