Llys y Goron Lerpwl
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio plismon oedd ar noson allan yn Lerpwl.
Fe ymosodwyd ar y Cwnstabl Neil Doyle, 36, yng nghanol y ddinas yn oriau man fore dydd Gwener ddiwethaf. Nid oedd ar ddyletswydd ar y pryd.
Cafodd dau gydweithiwr oedd gydag o ar y pryd, Michael Steventon a Robert Marsh, anafiadau i’w hwynebau.
Ddiwrnod ar ôl yr ymosodiad, fe wnaeth Andrew Taylor, 28, o Huyton gerdded i mewn i swyddfa’r heddlu. Cafodd Christopher Spendlove, 30, o Stockbridge Village ei arestio yn ddiweddarach.
Mae’r heddlu’n ceisio darganfod os oedd Neil Doyle wedi cael ei dargedu oherwydd bod rhywun wedi ei adnabod o’i waith.
Yn dilyn gwrandawiad 10 munud o hyd yn Llys y Goron Lerpwl heddiw, cafodd Andrew Taylor a Christopher Spendlove eu cadw yn y ddalfa tan 6 Ionawr.