Heddlu Gogledd Iwerddon
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Jean McConville yn y 1970au yn ystod y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon wedi arestio dau ddyn arall.

Cafodd dyn 63 oed ei arestio yn ne Armagh, a dyn arall 64 oed wedi’i arestio yn Swydd Antrim.
Mae’n dod a nifer y rhai sydd wedi’u harestio i gyfanswm o 11 hyd yma fel rhan o’r ymchwiliad i’r llofruddiaeth ym 1972.

Cafodd Jean McConville, 37, ei chipio gan yr IRA o’i fflat yng ngorllewin Belfast a chafodd ei saethu’n farw a’i chladdu yn gyfrinachol. Cafodd ei chorff ei ddarganfod ar draeth yn Swydd Louth yn Awst 2003.

Ni welwyd unrhyw ddatblygiadau pellach yn yr achos tan yn ddiweddar iawn, pan gafodd sawl un ei arestio eleni, gyda Gerry Adams yr un mwyaf amlwg.

Gwadodd Gerry Adams bod ganddo unrhyw ran yn y llofruddiaeth ar ôl cael ei holi am bedwar diwrnod ac fe gafodd ei ryddhau.

Cafodd Jean McConville, a oedd yn fam i 10 o blant, ei lladd ar ôl cael ei chyhuddo ar gam gan yr IRA o roi gwybodaeth i’r lluoedd diogelwch.