Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Fe fydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal adolygiad statudol o’r gwasanaethau Cymraeg sy’n cael ei gynnig ym manciau’r wlad mewn ymgais i “wella profiad cwsmeriaid” sy’n siarad yr iaith.
Dywedodd Meri Huws bod yr adolygiad wedi ei sbarduno gan gynnydd sylweddol yn y cwynion am wasanaethau Cymraeg yn y sector.
O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae gan y Comisiynydd bŵer i wneud unrhyw beth sy’n briodol yn ei thyb hi i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
Wedi casglu a dehongli’r dystiolaeth, bydd y Comisiynydd yn llunio cyfres o argymhellion er mwyn “gwella profiad cwsmeriaid yng Nghymru o ddelio â banciau drwy gyfrwng y Gymraeg”:
Tystiolaeth
“Mae’n amlwg bod darpariaeth Gymraeg y banciau yn peri pryder i aelodau’r cyhoedd ar draws Cymru,” ychwanegodd Meri Huws.
“Drwy gynnal adolygiad statudol, byddaf yn edrych yn fanwl ar y dystiolaeth sydd eisoes wedi dod i law. Rwyf hefyd yn gwahodd unigolion a mudiadau eraill i gysylltu â mi ac i rannu eu profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â banciau.”
Mae’r Comisiynydd yn gwahodd unigolion i gysylltu â hi er mwyn rhannu eu profiadau a chynnig tystiolaeth erbyn 30 Ionawr 2015.