Yr Airbus A350
Mae cwmni Airbus wedi cyflwyno ei awyren newydd cyntaf, yr A350, i Qatar Airways yn y Dwyrain Canol.

Mae adenydd yr A350 yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Yn ôl Airbus, mae’r A350 yn gosod “safonau newydd” o ran effeithlonrwydd am ei bod yn defnyddio llai o danwydd.

Mae’r A350 yn defnyddio peiriannau Rolls Royce sy’n cael eu cynhyrchu yn Derby.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable ei bod yn “ddiwrnod allweddol” i Airbus a bod yr awyren yn dangos bod Prydain yn arwain y ffordd wrth gynhyrchu awyrennau sy’n fwy effeithlon ar gyfer y dyfodol.