Kim Jong Un
Mae Gogledd Corea, sydd eisoes wedi adweithio’n chwyrn i gyhuddiadau o hacio cwmni Sony, wedi gwrthod cymryd rhan mewn cyfarfod gyda’r Cenhedloedd Unedig i drafod sefyllfa hawliau dynol y wlad.

Daw wedi i bwysau rhyngwladol gael ei roi ar Senedd Gogledd Corea eleni yn dilyn arolwg o droseddau honedig yn erbyn dynoliaeth, wnaeth rybuddio y gall arweinydd y wlad Kim Jong Un gael ei gosbi.

Mae aelodau o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cael eu hannog i gyfeirio sefyllfa hawliau dynol Gogledd Corea i’r Llys Barn Ryngwladol.

Wrth ymateb, mae Gogledd Corea wedi dweud na fydden nhw’n mynychu’r cyfarfod heddiw ac wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau o ddefnyddio’r honiadau am hawliau dynol i geisio tanseilio arweinyddiaeth y wlad.

Dywedodd y diplomydd Kim Song y bydd y wlad yn ystyried “cymryd y camau priodol” os fydd y Cyngor Diogelwch yn gweithredu yn erbyn Gogledd Corea.

Ymosodiad seibr

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth yr Arlywydd Obama feio Gogledd Corea am ymosodiad seibr ar system fewnol y cwmni Sony Pictures Entertainment.

Roedd hacwyr o’r enw ‘Guardians of Peace’ wedi bygwth gweithredoedd brawychol mewn sinemâu ledled y byd oes oedd y cwmni yn cyhoeddi’r ffilm, The Interview, am ladd arweinydd Gogledd Corea.

Mae disgwyl i’r Cenhedloedd Unedig drafod y mater yn y cyfarfod.