Gwn Taser
Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei saethu gyda gwn Taser gan yr heddlu wrth iddyn nhw ymateb i adroddiadau am ladrad mewn tŷ.
Dywed Heddlu Swydd Stafford bod swyddogion wedi tanio’r gwn Taser ar ôl cael eu galw i dy yn Heol Audley yn Newcastle-under-Lyme toc wedi 1yb bore dydd Llun.
Nid oedd perchnogion y tŷ yno ar y pryd, meddai’r heddlu, ond daeth swyddogion o hyd i ddyn yn y tŷ.
Dywedodd llefarydd bod y gwn Taser wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y digwyddiad a bod y dyn wedi cael ei gludo i gerbyd yr heddlu.
Ond yn fuan wedyn cafodd y dyn ei daro’n wael ac er gwaethaf ymdrechion gan barafeddygon bu farw.
Dywed Heddlu Swydd Stafford bod yr achos wedi cael ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) fel sy’n arferol mewn achosion o’r fath.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.