Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am ddynes a babi ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn dilyn pryderon am eu lles.
Cafodd y ddynes ifanc a’r plentyn bach eu gweld y tu allan i archfarchnad y Co-op yn Ffordd Bracla am tua 8:30yh nos Sul.
Yn ôl adroddiadau, roedd y ddynes yn gwisgo gwn nos, legins tri chwarter a thrainers. Mae ganddi wallt melyn oedd wedi ei glymu yn ôl.
Dywedodd yr Arolygydd Gary Smart, o Heddlu De Cymru: “Er nad ydym ni wedi derbyn adroddiad o rywun ar goll, mae’r tywydd yn oer ac yn wlyb ac o’r wybodaeth rydym ni wedi’i dderbyn, nid ydym yn credu bod y fam na’i babi yn gwisgo dillad addas ar gyfer y tywydd.
“Rydym felly yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth fyddai’n ein cynorthwyo i ddod o hyd i’r ddynes i gysylltu â ni ar 101.
“Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan y ddynes er mwyn ein sicrhau ei bod yn ddiogel.”