Jimmy Saville
Mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog wedi ymddiheuro wrth deuluoedd nifer o bobol oedd wedi cael eu cam-drin gan Jimmy Savile.
Roedd yr heddlu wedi methu ymchwilio i ymddygiad Jimmy Savile a maer Scarborough, Peter Jaconelli, pan oedden nhw’n fyw.
Daethon nhw i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn achos yn erbyn y ddau, er gwaethaf honiadau gan 35 o bobol – a 32 ohonyn nhw yn erbyn Jaconelli.
Cyfaddefodd yr heddlu y byddai achos yn cael ei ddwyn yn erbyn y ddau pe baen nhw’n fyw heddiw.
Cafodd ymchwiliad Hibiscus ei agor ym mis Chwefror yn dilyn ymchwiliad gan raglen Inside Out y BBC.
Dywedodd llefarydd fod yr heddlu wedi cysylltu â’r teuluoedd i esbonio’r sefyllfa ac i’w sicrhau bod cefnogaeth ar gael iddyn nhw o hyd.
Mae’r achos yn cael ei ystyried gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.