Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi wedi dweud bod gwerthu’r Post Brenhinol wedi cynnig cryn fanteision i Lywodraeth Prydain ac i drethdalwyr.

Yn ôl awdur yr adroddiad, yr Arglwydd Myners, cafodd y penderfyniadau cywir eu gwneud o ran prisio cyfranddaliadau, a chafodd y gwerthiant ei gwblhau gyda “chryn broffesiynoldeb”.

Dywedodd y byddai wedi bod yn risg i brisio cyfranddaliadau’n uwch na 350c i 360c.

Ond mae gwrthwynebwyr i’r gwerthiant wedi dweud y gallai Llywodraeth Prydain fod wedi sicrhau miliynau o bunnoedd yn rhagor o werthu’r Post Brenhinol pe bai pris cyfranddaliadau’n uwch na 330c.

Cafodd bron i 60% o’r Post Brenhinol ei werthu yn 2013, gan godi bron i £2 biliwn.

Yn ôl y gwrthwynebwyr, collodd trethdalwyr hyd at £1 biliwn, ond mae’r Arglwydd Myners wedi wfftio’r honiad hwnnw.

Ychwanegodd yr Arglwydd Myners fod y gwerthiant wedi’i gwblhau “yn erbyn ansicrwydd economaidd byd-eang a bygythiad o weithredu diwydiannol”.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable fod yr adroddiad yn “bwysig ac yn agoriad llygad”.