Mae ymateb y rhan fwyaf o gynghorau Cymru i’r her o ailgylchu wedi bod yn “rhagorol”, ond mae angen gwneud mwy i gyrraedd targedau cynyddol, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Dywedodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd bod Cymru yn cyflawni un o’r cyfraddau ailgylchu cyffredinol uchaf yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ond er bod gwelliant o ran cyrraedd targedau ailgylchu wedi ei weld yng Nghymru gyfan, ni wnaeth naw o’r 22 awdurdod lleol gyrraedd y targed o 52% ar gyfer 2012-13, ac mae tri wedi methu’r targed yn 2014.
Un o argymhellion y pwyllgor yw y dylai Llywodraeth Cymru annog cydweithio rhwng awdurdodau lleol wrth adnewyddu contractau ar gyfer darparu offer ar gyfer casglu gwastraff.
‘Brwdfrydig’
Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: “Fe ymatebodd dros 3,000 o bobol i’r ymchwiliad hwn – yr ymateb mwyaf i unrhyw ymchwiliad yn y Cynulliad.
“Rydym wedi’n calonogi ac yn frwdfrydig am lefel y diddordeb a’r brwdfrydedd sy’n bodoli dros barhau i ailgylchu cymaint o’n gwastraff â phosibl.
“Ond, ni allwn laesu dwylo am yr her o gwrdd â chyfraddau ailgylchu uwch. Gall llywodraeth leol a’r Llywodraeth genedlaethol wneud mwy i annog cyflawni’r cyfraddau uwch hyn.”