Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, yn gofyn i fwy o fusnesau yng Nghymru i gofrestru ar gyfer cerdyn braint sy’n cynnig arbedion i aelodau a chyn-aelodau o’r fyddin.

Eisoes mae dros fil o gwmnïau a busnesau ledled Prydain wedi cofrestru ar gyfer y cerdyn, sy’n cynnig gostyngiad o hyd at 25% o nwyddau i aelodau o’r Lluoedd Arfog dros gyfnod y Nadolig.

Ond mae Leighton Andrews am annog mwy o fusnesau i ymuno a’r cynllun er mwyn “cydnabod a helpu cymuned ddewr y Lluoedd Arfog yng Nghymru”.

Mae’r cyn-filwr, Tony Morris, 65 oed o Bontymister, ger Casnewydd, hefyd wedi dweud y byddai’n hoffi gweld rhagor o siopau’n cymryd rhan.

Bu’n aelod o’r Llynges Frenhinol am ddeuddeg mlynedd, ac roedd yn un o’r rhai cyntaf i gofrestru am y cerdyn wedi iddo gael ei lansio:

“Rwy’n teithio tipyn ac yn defnyddio fy ngherdyn mewn gorsafoedd gwasanaeth i gael bargeinion a gostyngiadau ar fwyd a nwyddau.

“Hoffwn weld mwy o siopau a busnesau lleol yng Nghymru yn cefnogi’r cynllun a’r hyn mae’n sefyll amdano.”