Barack Obama
Mae gobaith y bydd llif arian a phobol rhwng yr Unol Daleithiau a Chiwba yn gwella wedi iddyn nhw ddatrys anghydfod sydd wedi para hanner canrif.
Fel rhan o’r cytundeb diplomyddol, cafodd ysbiwyr sydd wedi cael eu carcharu eu rhyddhau, a’r Americanwr Alan Gross yn eu plith.
Roedd Gross yn gontractwr gyda llywodraeth yr Unol Daleithiau a gafodd ei garcharu yng Nghiwba bum mlynedd yn ôl.
Bu’r Unol Daleithiau a Chiwba’n trafod cytundeb ers 18 mis mewn cyfres o gyfarfodydd yng Nghanada.
Mewn araith, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama: “Mae’r 50 mlynedd hyn wedi dangos nad yw ynysu wedi gweithio.
“Mae’n bryd cael dulliau newydd.”
Ychwanegodd arweinydd Ciwba, Raul Castro: “Dylen ni ddysgu’r grefft o gyd-fyw mewn ffordd sifil er gwaethaf ein gwahaniaethau.”
Mae’r cynlluniau i adfer y berthynas rhwng y ddwy wlad yn cynnwys gwella cysylltiadau ariannol, agor llysgenhadaeth yn Havana ac anfon swyddogion yr Unol Daleithiau i Giwba i gryfhau camau’r wlad yn erbyn brawychiaeth.
Bydd rheolau teithio rhwng y ddwy wlad hefyd yn cael eu llacio, ond ni fydd hawl gan dwristiaid hamdden deithio rhwng y ddwy wlad o hyd.