Mae dros dri chwarter yr ymchwil sy’n cael ei gyflwyno gan brifysgolion Cymru yn rhagori yn rhyngwladol, yn ôl asesiad o ansawdd ymchwil yn y sector addysg uwch ym Mhrydain.

Roedd y mesurydd newydd yn asesu manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach yr ymchwil sy’n cael ei wneud gan brifysgolion.

Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Julie Williams, wedi llongyfarch prifysgolion Cymru am “ganlyniadau rhagorol” yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, oedd yn welliant sylweddol o’r canlyniadau yn 2008.

Mae’r asesiad yn penderfynu faint o arian fydd yn mynd i bob adran.

Nid da lle gellir gwell

Er y gwelliant, dywedodd yr Athro Julie Williams bod lle i wella:

“Mae’r fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn dangos bod y sector addysg uwch yn cynnal ymchwil o ansawdd uchel a safon fyd-eang mewn nifer o feysydd,” meddai.

“Mae’n arbennig o dda nodi’r cynnydd sydd wedi digwydd ers yr asesiad diwethaf o ymchwil yn 2008, ac effaith gadarnhaol yr ymchwil hwnnw tu hwnt i’r byd academaidd.

“Ond, serch hynny, gall Cymru wneud yn well eto. Mae’n amlwg bod ymchwil ein prifysgolion o’r safon orau bosibl ond mae angen inni gynnal rhagor o ymchwil os yw Cymru i elwa i’r eithaf ar y manteision economaidd a chymdeithasol.”

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: “Mae gwyddoniaeth ac arloesi’n hanfodol er mwyn creu twf a chyfoeth yng Nghymru. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod ymchwilwyr yng Nghymru ymhlith y gorau yn y DU ac yn y byd.”

Y ffigyrau

Prifysgol Caerdydd oedd yr uchaf o rai Cymru ar y rhestr, gan ddod yn 17eg yn y tabl.

Roedd 40.5% o ymchwil Caerdydd yn arwain drwy’r byd, a 46.9% o’r ymchwil yn rhagori yn rhyngwladol.

Daeth Abertawe yn 40fed yn y tabl, gyda 31.1% o’i hymchwil yn arwain drwy’r byd a 49.2% yn rhagori yn rhyngwladol.

Roedd Prifysgol Aberystwyth yn 49fed, gyda 22% o’i hymchwil yn arwain drwy’r byd a 45.4% yn rhagori yn rhyngwladol.

Prifysgol Bangor oedd yn 55fed, gyda 25.7% o’i hymchwil yn arwain drwy’r byd a 51.2% yn rhagori yn rhyngwladol.

Daeth Prifysgol De Cymru yn 97ain, gyda 11.8% o’i hymchwil yn arwain drwy’r byd a 38.5% yn rhagori yn rhyngwladol.

Er bod Prifysgol Met Caerdydd yn 112fed roedd ganddi lefel gymharol ag Aberystwyth a Bangor o ran safon yr ymchwil, gyda 24.5% yn arwain drwy’r byd a 54.6% yn rhagori yn rhyngwladol.

Roedd Prifysgol Y Drindod Dewi Sant yn 125ain, gyda 10.6% o’r ymchwil yn arwain drwy’r byd a 34.9% yn rhagori yn rhyngwladol.

137ain oedd Prifysgol Glyndŵr gyda 3% o’r ymchwil yn arwain drwy’r byd a 32.7% yn rhagori yn rhyngwladol.