Stanislav Mielko
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi apêl frys ar ran Heddlu Cleveland i geisio dod o hyd i ddyn 36 oed all beri risg i’r cyhoedd.

Mae’r heddlu wedi bod yn ceisio dod o hyd i Stanislav Mielko o Wlad Pŵyl ers iddo ddiflannu o ardal Thornaby yn Swydd Efrog ddoe.

Dywedodd swyddogion ar ran Heddlu Cleveland y gallai ymddangos fel ei fod wedi ei gyffroi ac y gall fod yn beryglus pe bai’n cael ei herio.

Credir bod ganddo gysylltiadau yn Northumbria a Chaeredin ac mae’n bosib ei fod wedi teithio i Lundain.

Mae Stanislav Mielko yn cael ei ddisgrifio fel dyn 6 troedfedd o daldra sydd a sawl tatw ar ei gorff. Roedd yn gwisgo het lwyd dywyll, top a jîns tywyll a sach gefn coch pan ddiflannodd.

Gofynnir i unrhyw un sydd yn dod ar draws Stanislav i beidio â mynd yn agos ato a chysylltu â’r heddlu ar frys ar 999.