Iolo Cheung sydd yn edrych ar bwy ydi’r Cymry dylanwadol ar Twitter …
Os ydach chi unrhyw beth fel fi, anaml ewch chi drwy’r diwrnod heb gael cip ar Twitter i weld beth sy’n mynd ‘mlaen yn y byd ac am beth mae pobl yn sgwrsio.
Mae mwy a mwy o bobl yn ymuno â’r wefan gymdeithasol bob dydd, a llawer yn ei ddefnyddio i drafod a lleisio barn am bynciau llosg y dydd – gan gynnwys ni’r Cymry.
Ond gyda chymaint o negeseuon trydar yn cael eu postio pob dydd, pa rai sydd yn wir yn llwyddo i ddal eich sylw?
Rydan ni wedi mynd ati i geisio ffurfio rhestr ugain uchaf o’r trydarwyr mwyaf dylanwadol yn y Gymraeg – ac fel y gwelwch chi, dyw hi ddim yn dasg hawdd.
Mesur dylanwad
Y cwestiwn mwyaf sylfaenol i’w ystyried wrth geisio llunio rhestr fel hon yw sut yn union mae modd mesur dylanwad rhywun ar Twitter.
Mi allai fod yn gyfuniad o bethau yn y bôn – nifer y dilynwyr sydd gennych chi, pa mor aml ‘dych chi’n trydar, pwy sydd yn eich dilyn chi, pwy sy’n ail-drydar eich negeseuon chi – mae’n rhestr hirfaith.
Fe allai rhywun hefyd fod yn ddylanwadol iawn o fewn cylch cyfyng y bobl, neu yn weddol ddylanwadol i gynulleidfa ehangach.
Rydan ni wedi cyfyngu’r rhestr yma i Gymry ar Twitter sydd yn trydar rhywfaint yn y Gymraeg – felly ymddiheuriadau i’r di-Gymraeg (fel Tom Jones) a’r Cymry Cymraeg sydd yn trydar ar y cyfan yn Saesneg (fel George North), mi gewch chi restr arall rywbryd eto!
Gan mai edrych ar yr unigolion mwyaf dylanwadol ydan ni gyda’r rhestr yma, rydan ni hefyd yn anwybyddu cyfrifon Twitter sefydliadau – pethau fel S4C, cyfrifon BBC Cymru, yr Eisteddfod a Golwg360.
Dilynwyr
Mae nifer y dilynwyr sydd gan bobl ar Twitter yn lle amlwg i ddechrau, a diolch i wefan indigenoustweets.com mae modd gweld rhestr sydd wedi ei gasglu o bob cyfrif Twitter sydd yn trydar yn yr iaith Gymraeg.
Er mwyn iddyn nhw ffitio’r disgrifiad o rywun sydd yn trydar rhywfaint yn y Gymraeg, mi wnaethon ni hefyd ddiystyru’r rheiny sydd yn trydar llai na 10% o’u negeseuon yn yr iaith, yn ôl Indigenous Tweets – felly eto, sori i Huw Stephens, Nigel Owens ac Iwan Roberts!
Y deg uchaf o ran dilynwyr felly ydi Glyn Wise, Leanne Wood, Bethan Jenkins, Tudur Owen, Gareth Wyn Jones, Vaughan Roderick, Caryl Parry Jones, Rhun ap Iorwerth, Dafydd Elis Thomas, a Mabon ap Gwynfor.
Fel y gwelwch chi mae’n rhestr llawn enwau adnabyddus i’r Cymry o fyd gwleidyddiaeth ac adloniant yn enwedig.
Ond fel rydan ni wedi crybwyll eisoes, dydi nifer y dilynwyr yn ei hun ddim o reidrwydd yn golygu eu bod nhw’n ddylanwadol – oes gan y bobl yma unrhyw beth o bwys i’w ddweud?
Ffrwti
Yn ogystal ag Indigenous Tweets, mae gwefan Ffrwti hefyd yn adeiladu rhestr o Gymry Cymraeg sy’n trydar – ac maen nhw’n rhoi sgôr i bob un yn seiliedig ar feini prawf fel nifer eu trydariadau Cymraeg, nifer eu dilynwyr, a’r cyfrifon maen nhw’n dilyn.
Fel yr esboniodd Rhodri ap Dyfrig o Ffrwti i mi, dydi o ddim yn sgôr sydd yn mesur ‘dylanwad’ fel y cyfryw, ond mae’n ddefnyddiol eto pan mae’n dod at geisio adnabod pwy ydi’r Cymry mwyaf bywiog ac adnabyddus ar Twitter.
Dyma chi’r deg uchaf yn seiliedig ar eu sgôr Ffrwti (sylwch ei fod o’n reit wahanol i un y dilynwyr) – Simon Brooks, Garry Owen, Elin Fflur, Dewi Llwyd, Bethan Gwanas, Rhodri ap Dyfrig, Dylan Jones, Sian Eleri Roberts, Iola Wyn, a Guto Dafydd.
Sgôr dylanwad
Yn wahanol i Indigenous Tweets a Ffrwti, mae ‘na rai gwefannau sydd YN honni eu bod nhw’n gallu rhoi sgôr ‘dylanwad’ i gyfrifon wrth ddadansoddi pwy sydd yn eu dilyn a pha fath o ymateb sydd yna i’w negeseuon nhw.
Felly fe wnaethon ni gymryd y 25 uchaf ar restrau Indigenous Tweets a Ffrwti, a gweld beth oedd eu sgôr nhw ar ddwy wefan gwahanol, Klout a Followerwonk.
Roedd y rhan fwyaf o’r rheiny gyda sgôr uchel ar y ddwy wefan hynny yn wleidyddion Plaid Cymru, gyda llawer o ddilynwyr ond hefyd llawer o bobl (y rhan fwyaf yn gefnogwyr dw i’n siŵr!) yn ail-drydar eu negeseuon hefyd.
Dylanwadol efallai, ond elfen o fod yn pregethu i’r praidd hefyd mwyaf tebyg.
Roedd rhai o’r lleill oedd yn uchel ar y rhestrau yma eto yn cynnwys enwau cyfarwydd fel Gareth Wyn Jones, Vaughan Roderick, Elin Fflur, Huw Marshall, Caryl Parry Jones.
Un mesur perthnasol iawn wrth fesur ‘dylanwad’ rhywun ydi faint o weithiau mae eu negeseuon yn cael eu haildrydar ar gyfartaledd – arwydd da bod gan rywun rywbeth difyr i’w ddweud, a ddim jyst yn mwydro!
Yn ogystal â rhai o’r enwau cyfarwydd uchod, roedd Tudur Owen a Gruffudd Antur hefyd yn uchel ar y rhestr hon.
… felly, yr Ugain Uchaf
Wrth gwrs, does dim pwynt dibynnu’n llwyr ar sgoriau a ffigyrau i benderfynu pwy ydi’r Cymry Cymraeg mwyaf dylanwadol ar Twitter.
Felly fe aethon ni yma yn golwg360 ati i geisio defnyddio rhywfaint o synnwyr cyffredin a barn ein hunain i ffurfio’r rhestr hefyd – dyma’r Ugain Uchaf.
1. Dyl Mei (@dylmei)
2. Vaughan Roderick (@VaughanRoderick)
3. Tudur Owen (@Tudur)
4. Leanne Wood (@LeanneWood)
5. Gareth Wyn Jones (@1GarethWynJones)
6. Glyn Wise (@GlynWise)
7. Mabon ap Gwynfor (@mabonapgwynfor)
8. Simon Brooks (@SeimonBrooks)
9. Jonathan Edwards (@JonathanPlaid)
10. Garry Owen (@owen_garry)
11. Huw Marshall (@Marshallmedia)
12. Dylan Ebenezer (@DylanEbz)
13. Rhun ap Iorwerth (@RhunapIorwerth)
14. Elin Fflur (@elinfflur)
15. Gareth Iwan (@GarethIwan)
16. Jill Evans (@JillEvansMEP)
17. Iola Wyn (@IolaWen)
18. Rhodri ap Dyfrig (@Nwdls)
19. Bethan Jenkins (@bethanjenkins)
20. Lisa Gwilym (@LisaGwilym)
Beth yw’ch barn chi? Pwy yw’r bobl mwyaf dylanwadol yn y Gymraeg ar Twitter ar hyn o bryd? Oes yna enwau amlwg rydan ni wedi methu? Gadewch sylw – neu wrth gwrs, trydarwch ni ar @golwg360.