Mae Bil Cymru wedi cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan y Frenhines heddiw, gan roi mwy o bwerau economaidd i Lywodraeth Cymru.
Mae’r Bil yn datganoli grym i’r Llywodraeth dros drethi a phwerau benthyca.
Bydd modd i Lywodraeth Cymru amrywio lefel y dreth incwm hefyd, yn ddibynnol ar gynnal refferendwm.
Bellach, mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am godi rhywfaint o’i gwariant ei hun.
‘Achlysur pwysig’
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae rhoi Cydsyniad Brenhinol i Fil Cymru yn achlysur pwysig i ni fel y cam nesaf ar daith datganoli.
“Bydd y pwerau newydd yn y Ddeddf, sy’n cynnwys datganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi, yn caniatáu i ni ddatblygu polisi trethi penodol sy’n deg ac yn diwallu anghenion pobl a busnesau Cymru.
“Bydd y pwerau benthyca newydd yn ffordd bwysig newydd o sicrhau’r seilwaith rydyn ni eisiau ei weld yn y dyfodol – ynghyd â’n cyllideb gyfalaf a chynlluniau cyllido arloesol – er mwyn rhoi hwb i’r economi a’n seilwaith.
“Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi’r pŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol alw refferendwm ar ddatganoli treth incwm.
Rwy’n croesawu hyn, ond mae’n rhaid i mi bwysleisio na all hyn ddigwydd nes i’r mater o gyllid teg gan San Steffan gael ei ddatrys.
“Mae’r holl bleidiau yn y Cynulliad wedi cefnogi cynnig sy’n datgan yn glir bod angen cyllid gwaelodol fel blaenoriaeth, a byddwn yn parhau i frwydro dros hyn.”
‘Diwrnod hanesyddol’
Wrth ymateb i’r sêl bendith frenhinol, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: “Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru.
“Bydd y sêl bendith frenhinol i Fil Cymru heddiw yn helpu i greu cytundeb datganoli cadarn a fydd yn para i Gymru.”
Mae Stephen Crabb wedi pennu Dydd Gŵyl Dewi fel dyddiad ar gyfer cwblhau’r trafodaethau ynghylch y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu, a hynny yn sgil canlyniad refferendwm yr Alban.
‘Carreg filltir’
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams wedi dweud bod y mesur yn “garreg filltir” yn nhaith datganoli yng Nghymru.
Mae hi wedi herio Carwyn Jones i gyhoeddi amserlen ynglŷn â phryd mae am weld Cymru yn cael y pwerau newydd yma.