Mae tri aelod o’r heddlu wedi cael eu cyhuddo o ladd gofalwr eglwysig â salwch meddwl tra ei fod yn y ddalfa.

Mae’r Sarsiant Jan Kingshott a swyddogion y ddalfa Simon Tansley a Michael Marsden wedi’u cyhuddo o ddynladdiad Thomas Orchard, 32, fu farw ym mis Hydref 2012 yng Nghaerwysg.

Mae’r tri aelod o Heddlu Dyfnaint a Chernyw hefyd yn wynebu cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerwysg ar Ionawr 29.

Ni fydd tri chwnstabl a nyrs y ddalfa yn wynebu unrhyw gyhuddiadau wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron ddweud nad oes digon o dystiolaeth i’w cyhuddo.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i farwolaeth Thomas Orchard, fu farw o anafiadau i’w ben.