Mae’r awdurdodau yn Sierra Leone yn parhau i chwilio cartrefi am bobol sy’n dioddef o Ebola.
Er bod nifer yr achosion yng ngorllewin Affrica wedi gostwng yn ddiweddar, mae’r lefel yn parhau’n uchel yn Sierra Leone, yn enwedig yn y brifddinas Freetown.
Cafodd ymgyrch 14 diwrnod newydd ei lansio gan yr Arlywydd Ernest Bai Koroma heddiw mewn darllediad cenedlaethol.
Dywedodd Koroma fod gwlâu, labordai ac ambiwlansys yn barod i drin unrhyw achosion newydd.
Yn ystod y darllediad, gwnaeth Koroma annog arweinwyr cymunedol a chrefyddol, gwleidyddion a grwpiau menywod ac ieuenctid i godi ymwybyddiaeth o Ebola o fewn eu cymunedau.