Plentyn yn cael ei gludo o'r safle ddoe
Mae angladdau torfol yn cael eu cynnal ym Mhacistan i’r 142 o bobol, y mwyafrif yn blant, gafodd eu lladd mewn ymosodiad gan y Taliban mewn ysgol ddoe.

Mae tridiau o alaru wedi dechrau yn y wlad ac mae’r gyflafan wedi cael ei disgrifio fel y gwaethaf yn hanes Pacistan.

Cafodd rhai o’r angladdau eu cynnal dros nos, ond mae’r rhan fwyaf o’r 132 o blant a’r 10 athro gafodd eu lladd yn cael eu claddu heddiw.

Ymosododd saith o aelodau’r Taliban ar ysgol yn ninas Peshawar sy’n cael ei rhedeg gan y fyddin, gan saethu disgyblion a llosgi rhai o athrawon benywaidd yn fyw.

Cafodd y saith ymosodwr eu lladd gan yr awdurdodau yn dilyn gwarchae ar safle’r ysgol.

Yn ogystal â’r meirw, cafodd 121 o ddisgyblion a thri aelod o staff eu hanafu.

Atebol

Mae’r Arlywydd Barak Obama ac arweinwyr byd eraill wedi condemnio’r ymosodiad ac aelodau o Taliban Afghanistan hyd yn oed wedi dweud ei fod yn “wrth-Islamaidd”.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Pacistan, Nawaz Sharif, y bydd yr ymgyrch yn erbyn y brawychwyr yn cael ei ddwysau.

“Mi fyddwn ni’n atebol i bob diferyn o waed gafodd ei golli.”