Milwyr yn Irac
Fe wnaeth milwyr Prydain gam-drin carcharorion yn Irac yn dilyn brwydr yno ddeg mlynedd yn ôl yn ystod y rhyfel, yn ôl ymchwiliad gan farnwr.
Ond roedd cyhuddiadau fod y milwyr wedi lladd ac arteithio yn “gelwydd bwriadol”.
Fe ddywedodd adroddiad terfynol ymchwiliad Al-Sweady bod ymddygiad rhai o’r milwyr wedi torri Confensiwn Genefa.
Ond roedd yn feirniadol tu hwnt o’r cyhuddiadau yr oedd yn ymchwilio iddi yn y lle cyntaf, sef bod milwyr o Irac wedi cael eu llofruddio, eu harteithio ac anffurfio ar ôl Brwydr Danny Boy ar 14 Mai 2004 ger Al Amarah yn ne Irac.
Cwestiynu tactegau
Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu nôl yn 2009, ac erbyn hyn mae wedi costio bron i £25miliwn i’w chynnal.
Yn yr adroddiad terfynol fe ddywedwyd bod y carcharorion o Irac, oedd yn rhan o grŵp gwrthryfela Mahdi Army, wedi dweud celwydd am y cyhuddiadau mwyaf difrifol er mwyn ceisio dwyn gwarth ar luoedd arfog Prydain.
Ond roedd cadeirydd yr ymchwiliad Syr Thayne Forbes hefyd yn feirniadol o ymddygiad milwyr Prydain tuag at y carcharorion.
Roedd hynny yn cynnwys rhoi mygydau dros lygaid y carcharorion, peidio â gadael iddyn nhw fwyta a chysgu, a defnyddio technegau holi oedd yn groes i Gonfensiwn Genefa.
Cafwyd beirniadaeth o’r modd y gwnaeth rhai o filwyr Prydain hefyd dynnu lluniau o’u hunain gyda’r carcharorion.