Llun CCTV o Indie Buckley
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi apêl am yr eildro am wybodaeth ynglŷn â merch 13 oed sydd ar goll.

Nid yw Indie Helen Buckley wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref yng Nghastell Nedd am tua 2:30 ddydd Sul diwethaf.

Credir ei bod hi wedi teithio i Bort Talbot i weld ffrind ac mae swyddogion yn credu y gallai hi hefyd wedi teithio i Gaerdydd.

Mae’r heddlu bellach yn credu y gallai hi fod gyda llanc 17 oed, Brandon Lee Deacon, o Gaerdydd sydd hefyd wedi bod ar goll ers bore dydd Llun, 16 Rhagfyr.

Y tro diwethaf i Indie Buckley gael ei gweld roedd hi’n gwisgo legins du, trainers Nike gwyn, top Adidas glas a chot Parka werdd. Mae ganddi wallt brown tywyll hir ac mae hi tua 5’7’’ o daldra, yn ôl yr heddlu.

Ers iddi ddiflannu o’i chartref, mae’r heddlu wedi cyhoeddi llun CCTV ohoni yng Nghaerdydd.

“Rydym yn poeni am les Indie ac yn apelio arni hi, ac unrhyw un arall sy’n gwybod ble mae hi, i gysylltu â’r heddlu. Mae ymchwiliadau helaeth ar waith i geisio dod o hyd iddi,” meddai’r Ditectif Arolygydd Trudi Meyrick.

Gofynnir i unrhyw un a gwybodaeth i ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1400465589.