Llys y Goron Caerdydd
Mae bachgen 16 oed wedi pledio’n euog o lofruddio dyn yng Nghaerffili.
Bu farw Michael Lee Emmett, 29, oedd yn dad i dri o blant, ar 2 Medi ar ôl cael ei drywanu yn y Coed Duon yng Nghaerffili ar 1 Awst.
Cafodd ei ffrind, John Williams, sy’n 44 oed, hefyd ei drywanu ond fe gafodd ei ryddhau o’r ysbyty yn dilyn triniaeth.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe wnaeth y bachgen 16 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ymddangos trwy gyswllt fideo a phleidio’n euog i gyhuddiad o lofruddio.
Bydd yn cael ei ddedfrydu yn y flwyddyn newydd.