Jimmy Mubenga gyda'i wraig Adrienne Makenda Kambana
Mae tri o swyddogion diogelwch cwmni G4S wedi eu cael yn ddieuog o ladd dyn fu farw wrth iddyn nhw geisio ei rwystro ar awyren.

Bu farw Jimmy Mubenga ar 12 Hydref 2010, ar ol y digwyddiad ar awyren British Airways wrth iddo gael ei anfon yn ôl i Angola.

Roedd Terrence Hughes, 53, Colin Kaler, 52, a Stuart Tribelnig, 39, wedi’u cyhuddo o ddal ei ben i lawr am 36 munud wrth i’r awyren adael maes awyr Heathrow.

Fe glywodd y llys fod y tri swyddog wedi defnyddio techneg sydd wedi ei gwahardd o’r enw ‘carpet karaoke’ i rwystro Jimmy Mubenga, gan ei stopio rhag anadlu yn iawn.

Erbyn i griw’r awyren sylwi bod rhywbeth o’i le roedd Jimmy Mubenga wedi cael ataliad ar y galon, ac fe fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Clywodd y llys bod teithwyr ar yr awyren wedi clywed Jimmy Mubenga yn dweud “Alla’i ddim anadlu” wrth iddo gael ei ddal i lawr yn ei sedd, er ei fod eisoes mewn gwregys a chyda chyffion ar ei ddwylo.

Ond fe ddywedodd y tri swyddog na glywson nhw’r dyn 46 oed yn gweiddi nac yn dweud ei fod yn ei chael hi’n anodd anadlu.

A heddiw fe benderfynodd y rheithgor yn llys yr Old Bailey fod y tri dyn yn ddieuog.