Chris Denning
Mae cyn DJ Radio 1 Chris Denning wedi cael ei garcharu am 13 mlynedd am ymosod yn rhywiol ar 24 o fechgyn – gan gynnwys un achos honedig yng nghartref Jimmy Savile.

Clywodd Llys y Goron Southwark bod Denning, 73, wedi defnyddio “ei enwogrwydd ac apêl y diwydiant recordio” i ddenu ei ddioddefwyr ifanc, rhai mor ifanc â 10 oed.

Roedd rhai o’r bechgyn ifanc wedi cael mynd i weld Top of the Pops yn cael ei recordio a’u cyflwyno i nifer o sêr gan gynnwys y cyn DJ Jimmy Savile.

Roedd dwsinau o’r dioddefwyr yn y llys heddiw wrth i Denning gael ei ddedfrydu.

Dywedodd y barnwr Alistair McCreath bod yr ymosodiadau gan Denning wedi bod yn “amhriodol ac yn bwdr.”