Mae cynghorwyr Sir y Fflint wedi cymeradwyo arbedion drafft o £16.4m mewn cyfarfod cabinet heddiw.
Daw’r penderfyniad wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd awdurdodau lleol Cymru yn cael 3.4% yn llai – sy’n cyfateb i £145 miliwn – yn eu cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Nawr, fe fydd y cyngor yn trafod rhai o’r cynigion, sy’n cynnwys adolygu nifer y staff a lefelau treth cyngor, ac fe fydd y cyngor llawn yn gwneud penderfyniad terfynol fis Chwefror.
Yn y cyfamser mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i ymgynghori ar ddyfodol tri chartref gofal.
Roedd tri chyngor yn y gogledd – Gwynedd, Sir Ddinbych a’r Fflint – yn cwrdd heddiw i drafod sut i ddygymod hefo’r arbedion ariannol sy’n eu hwynebu.
‘Her ddigynsail’
Cyn i’r trafodaethau gychwyn, dywedodd y Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Gwynedd, bod yr her ariannol sy’n wynebu cynghorau Cymru yn “ddigynsail” ac yn dod ar gyfnod pan mae’r galw am wasanaethau cyhoeddus lleol yn cynyddu:
“Fel Cyngor, rydym wedi datgan ein bod yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gwrdd â’r her drwy adnabod ffyrdd newydd a mwy effeithlon o ddarparu gwasanaethau lle bynnag bo hynny’n bosib, a hynny er mwyn cyfyngu gymaint ag y medrwn ni ar yr angen i dorri gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr.