David Jones
Fe fyddai gwahardd Aelodau Seneddol Cymru rhag pleidleisio ar ddeddfau yn Lloegr, a allai effeithio arnyn nhw, yn “gwbl anghywir”, yn ôl cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Dywedodd y Ceidwadwr David Jones mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw nad oedd modd trin Cymru a’r Alban yr un peth wrth drafod pleidleisiau Lloegr ar ddeddfau i Loegr.
Fe gyfaddefodd arweinydd Tŷ’r Cyffredin William Hague y gallai’r mater greu “anhawster” i Gymru, ac y byddai’n ystyried sut y gellir ei datrys.
Deddfau Saesneg?
Roedd David Jones yn un o’r ASau meinciau cefn a fynegodd ei farn heddiw ar gynlluniau i roi pleidlais ar rai materion i ASau Lloegr yn unig.
O dan y cynlluniau newydd, ni fyddai gan ASau Cymru a’r Alban yr hawl i bleidleisio ar ddeddfau yn San Steffan mewn meysydd fel addysg ac iechyd, sydd wedi eu datganoli yn barod i’w gwledydd nhw.
Ond yn ôl David Jones, sydd yn AS dros etholaeth Gorllewin Clwyd, mae llawer o bobl Cymru yn dibynnu ar wasanaethau yn Lloegr ac felly fe ddylai gwleidyddion Cymru gael lleisio eu barn yn yr achosion hynny.
“Fyddech chi’n cytuno â mi y byddai’n anghywir i roi Cymru a’r Alban yn yr un sefyllfa?” gofynnodd David Jones wrth William Hague, sydd hefyd yn gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Awgrymodd William Hague y gallai ASau o Gymru barhau i leisio eu barn ar ddeddfwriaeth, a chael caniatâd arbennig i bleidleisio, petai’r Senedd yn penderfynu bod deddfwriaeth hefyd yn effeithio ar Gymru.
“Ar nifer bychan o faterion trawsffiniol ble mae dibyniaeth strwythurol – iechyd yng Nghymru er enghraifft – mae achos cryf dros ddiffiniad ehangach o beth yw mater i Loegr, fel bod eraill yn medru bod yn rhan o’r broses,” ychwanegodd Hague.
Rhagrith yn ôl AS Sir Fynwy
Wrth gyfrannu ar y drafodaeth fe awgrymodd AS Sir Fynwy David Davies fod y rheiny oedd eisiau gweld rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i Gymru a’r Alban, ond ddim am gefnogi pleidleisiau i Loegr yn unig, o fod yn rhagrithwyr.
“Onid ydych chi’n ei gweld hi’n hynod bod y rheiny sydd yn gweiddi uchaf am ragor o bwerau i Gymru a’r Alban nawr yn gwneud popeth posib i atal yr un pwerau rhag cael eu rhoi i Loegr?” gofynnodd David Davies wrth William Hague.
“Fel Cymro balch a Phrydeiniwr balch alla’i eich annog chi i ddod a’r cynlluniau yma ymlaen cyn gynted â phosib cyn yr etholiad cyffredinol er mwyn rhoi’r llais y maen nhw’n ei haeddu i’r Saeson?”