William Hague
Mae William Hague wedi bod yn amlinellu amryw o gynigion y Glymblaid ar gyfer datganoli pellach yng Nghymru a Lloegr a phleidleisiau Saesneg ar gyfer cyfreithiau yn Lloegr.

Dywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin wrth Aelodau Seneddol heddiw na all cwestiwn West Lothian gael ei roi “o’r neilltu” bellach.

Roedd hefyd wedi beirniadu Llafur am wrthod cymryd rhan mewn pwyllgor trawsbleidiol i drafod y mater.

Wrth ymateb ar ran Llafur, galwodd llefarydd y blaid dros gyfiawnder, Sadiq Khan, am ddatganoli i ddinasoedd a rhanbarthau yn Lloegr ac am ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi, tra’n rhybuddio’n erbyn caniatáu i’r undeb gael ei rannu “trwy’r drws cefn”.

Dywedodd William Hague wrth Dŷ’r Cyffredin fod y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud amryw o gynigion i ddatrys y mater.

Ar ran y Torïaid, dywedodd bod awydd i “barhau â grymuso cymdogaethau a phlwyfi yn Lloegr” yn ogystal â symud tuag at feiri cryfach, fel sy’n digwydd yn Llundain ac sy’n cael ei gynllunio ym Manceinion.

Feto

Mae cynigion y Ceidwadwyr ar gyfer diwygio’r Senedd yn amrywio o gyfyngu ASau rhag cymryd rhan mewn pleidleisiau sydd ddim yn effeithio eu hetholaethau, i bwyllgor o ASau Lloegr fyddai â hawl feto ddeddfwriaethol.

Byddai man canol rhwng y cynigion, awgrymwyd gan Ken Clarke yn 2008, yn gweld ASau o Loegr, neu ASau o Loegr a Chymru, yn gweithio ar eu pen eu hunain wrth graffu’r ddeddfwriaeth ond gyda’r Tŷ cyfan yn pleidleisio ar y ddeddf mewn egwyddor ar y dechrau a diwedd.

Dywedodd William Hague fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno cynigion ar gyfer “datganoli ar alw” lle byddai rhanbarthau’n gallu dangos ffactorau fel daearyddiaeth, poblogaeth, atebolrwydd lleol a democratiaeth er mwyn cael yr hawl i gael amrywiaeth o bwerau datganoledig a gynigir gan San Steffan.

‘Rhywbeth i’w ddysgu gan wleidyddion Cymru’

Mae Steve Brooks, cyfarwyddwr Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru, wedi dweud fod y cynigion yn dangos pam fod angen dull hollol wahanol wrth benderfynu ar ddyfodol y Deyrnas Unedig. Dywedodd hefyd fod gan wleidyddion San Steffan rhywbeth i’w ddysgu gan wleidyddion Cymru.

“Pan ddaw’n amser i ail-lunio’r rheolau ynglŷn â sut mae Prydain yn cael ei llywodraethu, byddai’n syniad i arweinwyr San Steffan edrych ar sut mae arweinwyr pleidiau Cymru wedi cydweithio dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae gwahanol syniadau wastad wedi bod gan bleidiau yng Nghymru ynglŷn â dyfodol datganoli, ond pan mae gan bob ochr ffydd yn y broses, gellir cyrraedd consensws.

“Mae diffyg ffydd yn y broses yn Lloegr, ac mae hynny’n rhannol esbonio pam nad oes cytundeb rhwng y tair plaid fwyaf yn y DU fwyaf ar sut i ateb y Cwestiwn West Lothian.”