Y Cynghorydd Sion Jones
Mae cynghorydd Llafur ar Gyngor Gwynedd wedi cyhuddo’r Cynghorydd Siân Gwenllian o “stỳnt wleidyddol” wedi iddi ymddiswyddo o fwrdd sefydliad tai.

Roedd Siân Gwenllian, sydd yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Arfon yn etholiadau nesa’r Cynulliad, wedi ymddiswyddo o fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) mewn protest am iddyn nhw hysbysebu dwy swydd heb fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Ychwanegodd nad oedd amod wedi ei gynnwys chwaith oedd yn dweud fod yn rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus am y swydd ddysgu Cymraeg.

Meddai Siân Gwenllian: “Bydd penodi dau aelod o staff di-gymraeg ar y lefel uchaf yn newid holl ethos ieithyddol CCG, sy’n gyflogwr mawr yn lleol.

“Bydd cyfathrebu o ddydd i ddydd yn yr uwch dim reoli yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd hyn yn treiddio drwy’r corff i gyd ac fe fydd yn mynd yn gynyddol anodd i gynnal y Gymraeg fel iaith cyfathrebu mewnol.

Dywed CCG eu bod wedi hysbysebu’r swyddi heb yr amod iaith am eu bod wedi cael trafferth recriwtio i swyddi lefel uchel a’u bod eisiau denu’r ymgeiswyr gorau posibl.

‘Penderfyniad cywir’

Yn ddiweddar, gwerthodd y Cynghorydd Sion Jones, 23, gwmni arwerthu tai, Eiddo, yn ardal Caernarfon gyda’r bwriad o sefyll fel ymgeisydd dros y blaid Lafur yn Arfon yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Dywedodd Sion Jones, sy’n gynghorydd sir dros ward Bethel a Llanddeiniolen, wrth golwg360 fod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Meddai Sion Jones: “Fel un sydd wedi rhedeg busnes cwbl ddwyieithog yn yr ardal, dwi’n deall a gwerthfawrogi’r pwysigrwydd o ddelio gyda chwsmeriaid yn y Gymraeg.

“Mae rhaid nodi bod un swydd uchel yn CCG sy’n hanfodol i siarad y Gymraeg – sef Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chymunedau.”

‘Stỳnt wleidyddol’

Ychwanegodd Sion Jones: “Dydw i ddim yn amddiffyn Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn aml iawn ond yn yr achos yma, mae’n rhaid i mi wneud. Mae’r Prif Weithredwr wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth fynd ati gyda’r broses recriwtio.

“Mae hyn yn stỳnt wleidyddol gan y Cynghorydd, ac mae angen dangos parch at bobl Saesneg sydd yn dymuno gweithio gyda ni, i ddysgu’r iaith gyda ni, a chael eu croesawu i weithio ac agor busnesau yn yr ardal i hybu’r economi.

‘Wedi ymddiswyddo ym mis Medi’

Dywedodd Siân Gwenllian fod pob hawl gan Sion Jones i’w farn am benderfyniad Cartrefi Cymunedol Gwynedd a’i bod hi eisoes wedi rhoi ei barn hi ar y mater. Ychwanegodd y byddai wedi mynd at y wasg yn gynharach, pan wnaeth hi ymddiswyddo ym mis Medi, petai hi eisiau gwneud “stỳnt wleidyddol.”

Meddai: “Dwi wedi rhoi fy marn ar y mater ac mae Sion Jones yn rhydd i’w farn o hefyd. O ran y ‘stỳnt wleidyddol’, mae’n rhaid tynnu sylw at y ffaith mod i wedi ymddiswyddo o’r bwrdd ers mis Medi, ac os fyswn i am dynnu sylw at y ffaith yna mi fyswn i wedi gallu mynd at y wasg bryd hynny.

“Y gwir ydy mai’r wasg ddaeth ata’ i gynta yn gofyn i mi gadarnhau’r sibrydion oedan nhw wedi ei glywed. Os fyswn i isio tynnu sylw at y peth, pam nes i ddim hynny ym mis Medi?”