Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r cyflogwr diweddaraf yng Nghymru i ymrwymo i dalu Cyflog Byw i’w staff.

Yn dilyn trafodaethau â chynrychiolwyr undebau, fe gyhoeddodd y Llyfrgell y bydd ei holl staff yn derbyn o leiaf y Cyflog Byw o £7.65 yr awr o 1 Ionawr 2015 ymlaen (£7.85 yr awr o 1 Ebrill).

Mae’n dilyn protestiadau gan weithwyr y Llyfrgell oedd yn honni bod y llyfrgell ymhlith y cyflogwyr gwaethaf yn y sector gyhoeddus.

Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant Ken Skates ymweld â’r Llyfrgell heddiw er mwyn nodi’r garreg filltir.

‘Tegwch’

Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Llyfrgellydd, Dr Aled Gruffydd Jones: “Mae’n fater o degwch sylfaenol y dylai pobol gael cyflog sy’n ddigon i fyw arno.”

“Er gwaethaf sefyllfa ariannol heriol y Llyfrgell rydym yn falch o allu cynyddu cyflogau’r staff hynny sydd ar y bandiau isaf drwy ymateb yn gadarnhaol i darged Cyflog Byw Llywodraeth Cymru.

Ar ran yr undebau FDA, PCS a Prospect dywedodd Gareth Howells, Prif Swyddog Negodi Prospect yng Nghymru:
“Rydym yn hapus iawn fod y llyfrgell wedi cytuno i un o gonglfeini cais cyflog yr undebau llafur am eleni.

“Mae hyn yn dangos gwerth gweithio mewn partneriaeth rhwng yr undebau llafur a rheolwyr y Llyfrgell. Yn dilyn cyfnod anodd yn hanes y Llyfrgell, rydym yn gobeithio y bydd hyn nawr yn gychwyn ar bennog newydd ym mherthynas y Llyfrgell â’r undebau llafur”.