Mae 87% o athrawon ysgolion uwchradd Cymru yn dweud eu bod wedi clywed achosion o fwlio homoffobaidd yn eu hysgol, yn ôl ymchwil newydd.

Daeth i’r amlwg hefyd bod aelodau o staff yn defnyddio iaith homoffobaidd – gyda thraean y gweithwyr mewn ysgolion uwchradd (32%) a bron i chwarter mewn ysgolion cynradd (23%) wedi dod ar draws iaith homoffobaidd gan eu cyd-weithwyr.

Heddiw mae’r elusen cydraddoldeb Stonewall Cymru wedi cyhoeddi ymchwil sy’n honni i roi darlun o fywyd bob dydd yn ystafelloedd dosbarth Cymru, sy’n cynnwys ymateb gan 138 o athrawon yng Nghymru.

Un o’r canfyddiadau eraill oedd bod 90% o athrawon cynradd a 79% o athrawon uwchradd yn dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw hyfforddiant penodol ar daclo bwlio homoffobaidd, er bod mwyafrif llethol yn credu bod dyletswydd arnyn nhw i ymateb.

‘Newid yn angenrheidiol’

Meddai Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White: “Anodd credu, fwy na degawd ers diddymu Adran 28, bod mwyafrif yr athrawon ysgol yn dal i amau ydyn nhw’n cael dysgu disgyblion am faterion lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

“Athrawon yw’r adnodd mwyaf pwerus sydd gyda ni yn y frwydr i daclo bwlio homoffobaidd. Er bod peth cynnydd wedi bod, mae ymchwil Stonewall yn dangos bod Adran 28 yn dal i daflu ei chysgod dros ysgolion Cymru.

“Rydyn ni wedi lansio ein rhaglen ‘Hyfforddi’r Hyfforddwyr’, ac rydyn ni’n dal i ymgyrchu er mwyn helpu athrawon i herio bwlio homoffobaidd, ond allwn ni ddim creu’r newid angenrheidiol ar ein pen ein hunain.

“Mae’n rhaid i’r holl bartneriaid allweddol ym maes addysg gefnogi athrawon a disgyblion yn y gwaith o herio’r bwlio a’r iaith niweidiol sy’n dal pobl ifanc yn ôl.”

Roedd Adran 28 Deddf Llywodraeth Leol 1988 yn gwahardd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr rhag “hybu” cyfunrywioldeb. Roedd hefyd yn labelu perthnasau teuluol hoyw fel perthnasau “ffug”.

Canllawiau bwlio yn ‘methu’

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd un o aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Peter Black fod y canfyddiadau yn “adlewyrchiad trist iawn o fywyd mewn ysgolion”:

“Mae hefyd yn dangos bod canllawiau bwlio Llywodraeth Cymru yn methu,” meddai’r llefarydd ar gydraddoldeb.

“Os yw traean o athrawon yn clywed iaith homoffobaidd gan eu cydweithwyr, fel mae’r adroddiad yn ei awgrymu, mae angen gofyn cwestiynau difrifol ynglŷn â pha mor gymwys yw ysgolion i ddelio hefo sefyllfaoedd lle mae pobol ifanc yn cael eu bwlio oherwydd eu rhywioldeb.”