Mae’r heddlu yn Abertawe yn ymchwilio i honiadau bod dyn wedi ymddwyn yn anweddus tuag at sawl merch mewn tafarn yng nghanol y ddinas.

Cafodd dyn 38 oed ei arestio yn fuan ar ôl iddo gael ei daflu allan o far La Cantina ar Stryd y Gwynt nos Sadwrn, 13 Rhagfyr.

Mae’r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa wrth i’r ymchwiliad barhau.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Martin Loosemore: “Am tua 11 yr hwyr, fe wnaeth dyn gerdded i mewn i La Cantina a chafodd ei weld yn cyffwrdd merched yn anweddus. Cafodd dyn 38 oed yna ei arestio yng nghanol y ddinas.

“Rydym yn apelio ar i unrhyw ferched oedd yn La Cantina ac a welodd unrhyw ymddygiad amhriodol nos Sadwrn i gysylltu â ni.”

Mae’r heddlu hefyd yn gofyn i unrhyw dystion eraill ffonio’r heddlu ar 101 neu i gysylltu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 .