Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae dyn 24 oed, sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn mewn tafarn yng Nghaergybi ddydd Gwener ddiwethaf, wedi ymddangos gerbron llys am yr eildro.
Fe gafodd Peter Garrod, 24 oed, o Drearddur, ei gyhuddo yn dilyn marwolaeth landlord tafarn Blossoms, David Jones nos Wener.
Fe ymddangosodd o flaen ynadon Caernarfon ddoe, ac o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug y bore ma ar gyfer gwrandawiad.
Bydd yn ymddangos eto gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 24 Chwefror lle mae disgwyl iddo gyflwyno ple.
Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad yng Nghaergybi ac yn annog pobol i ffonio 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111