Mae tri o gynghorau’r Gogledd yn cwrdd i drafod yr arbedion sydd rhaid gwneud yn eu cyllidebau heddiw.

Bydd aelodau o Gabinet Cyngor Gwynedd yn trafod sut i arbed £14.7 miliwn y flwyddyn, Cyngor Sir Y Fflint yn ceisio ystyried ffyrdd i arbed £16.4 miliwn a Chyngor Sir Ddinbych yn trafod arbedion o tua £17 dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y trafodaethau hefyd yn cynnwys pynciau dadleuol fel cau cartrefi gofal a darparu llai o grantiau i brosiectau cymunedol.

Fe gadarnhaodd Leighton Andrews ar ddechrau’r mis y bydd awdurdodau lleol Cymru yn gweld toriad o 3.4% – sy’n cyfateb i £145 miliwn – yn eu cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

‘Her ddigynsail’

Dywedodd y Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Gwynedd, bod yr her ariannol sy’n wynebu cynghorau Cymru yn “ddigynsail” ac yn dod ar gyfnod pan mae’r galw am wasanaethau cyhoeddus lleol yn cynyddu:

“Fel Cyngor, rydym wedi datgan ein bod yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gwrdd â’r her drwy adnabod ffyrdd newydd a mwy effeithlon o ddarparu gwasanaethau lle bynnag bo hynny’n bosib, a hynny er mwyn cyfyngu gymaint ag y medrwn ni ar yr angen i dorri gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr.

“Ers y gwanwyn, mae adrannau’r Cyngor wedi bod yn edrych mewn manylder ar opsiynau posib o wireddu arbedion effeithlonrwydd – hynny ydi darparu eu gwasanaethau mewn ffordd wahanol gyda llai o arian.

“Rydym yn cydnabod y bydd arbedion effeithlonrwydd yn golygu newidiadau i’r modd mae’r cyhoedd yn derbyn gwasanaethau, ond mae’n bwysig cofio bod pob punt o arbedion o’r fath yn golygu punt yn llai o doriadau i wasanaethau cyhoeddus hanfodol.”