Mae prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru yn annog y cyhoedd i wneud dewis doeth dros y gaeaf wrth rybuddio am y pwysau sydd ar y gwasanaeth.
Mae Dr Andrew Goodall wedi gofyn i bobl beidio â ffonio 999 neu fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys ar yr arwydd cyntaf o anaf neu salwch.
Mae’n awgrymu fod pobl yn ystyried troi at ffynonellau gofal eraill fel ffonio Galw Iechyd Cymru neu fynd i uned mân anafiadau neu’r fferyllfa leol.
Wrth siarad cyn gwyliau’r Nadolig, cadarnhaodd Dr Goodall fod y byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r gwasanaeth ambiwlans wedi rhoi cynlluniau ar waith i ymdopi â phwysau’r gaeaf.
Mae’r GIG eisoes wedi gweld cynnydd mewn pwysau ac yn y galw am wasanaethau brys dros yr wythnosau diwethaf.
Cynllunio dros y gaeaf
Yn ystod gaeaf 2012-13, gwelodd y GIG yng Nghymru bwysau sylweddol ar y gwasanaeth brys. Ond y llynedd, drwy ganolbwyntio fwy ar gynllunio at y gaeaf, llwyddodd y GIG i ymdopi â’r pwysau hyn yn well.
Mae’r cynlluniau yn gweld y GIG, awdurdodau lleol a’r gwasanaeth ambiwlans yn cydweithio er mwyn lleihau derbyniadau i ysbytai drwy gynyddu’r nifer sy’n cael eu brechu rhag ffliw, cydweithio’n well gyda gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, a chynyddu’r defnydd o unedau mân anafiadau.
Bydd y byrddau iechyd, awdurdodau lleol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cadw golwg ar eu cydgynlluniau i sicrhau eu bod o gymorth i’w perfformiad dros y gaeaf.
Cydweithio
Dywedodd Dr Goodall: “Rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer y gaeaf ers tro. Mae gan holl sefydliadau’r GIG drefniadau ar waith i gynnal gwasanaethau os bydd tywydd garw.
“Datblygwyd cydgynlluniau’r gaeaf am y tro cyntaf y llynedd. Roedd tystiolaeth amlwg o gydweithio cryfach rhwng y byrddau iechyd, awdurdodau lleol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac rwy’n falch o nodi bod cynllunio fel hyn ar gyfer y gaeaf wedi bod yn llwyddiant.
“Rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd barhau â’r gwaith hwn dros y gaeaf i ddod, gan weithio’n agos gyda’u partneriaid awdurdod lleol a gwasanaeth ambiwlans i gyflymu’r llif cleifion drwy ysbytai ac yn ôl i’r gymuned.”
‘Argyfwng gwirioneddol’
Ychwanegodd Dr Goodall: “Mae’n anochel y bydd galw mawr ar wasanaethau brys a gofal brys dros fisoedd y gaeaf, a gall hyn ei gwneud yn anodd i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ddarparu pob gwasanaeth bob amser.
“Rwy’n annog pobl Cymru i wneud dewis doeth y gaeaf hwn, a ffonio 999 neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys dim ond pan fydd argyfwng gwirioneddol.