Jimmy Savile
Mae cynllun iawndal a sefydlwyd ar gyfer merched sy’n honni eu bod nhw wedi cael eu cam-drin yn rhywiol gan Jimmy Savile, wedi cael ei awdurdodi gan y Llys Apêl.
Fe gyhoeddwyd dyfarniad y tri barnwr heddiw ar ôl i elusen, sy’n gyfrifol am ystâd Savile, godi pryderon am y cynllun.
Dywedodd cyfreithwyr ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Jimmy Savile nad oedd y cynllun yn asesu “dilysrwydd” y rhai oedd yn hawlio iawndal ac nid oedd “proses o werthuso”.
Gofynnwyd i farnwyr y Llys Apêl ystyried yr achos yn sgil dyfarniadau gan farnwr yn yr Uchel Lys.
Clywodd y barnwyr bod Savile, a fu farw ym mis Hydref 2011 yn 84 oed, yn destun rhaglen deledu ITV a gafodd ei darlledu ym mis Hydref 2012.
Yn y rhaglen, cafodd Savile ei gyhuddo o gam-drin plant ac o fod yn droseddwr rhyw a honnwyd fod rhai wedi cael eu cam-drin mewn ysbytai.
Yn dilyn y darllediad, aeth “nifer fawr” o bobl at yr heddlu i wneud honiadau eu bod wedi eu cam-drin ganddo.
Dywedodd y cyfreithwyr bod mwy na 200 o bobl bellach wedi gwneud ceisiadau am iawndal, ar ôl honni eu bod wedi cael eu cam-drin gan Savile.
Mae ystâd Jimmy Savile werth tua £3.3 miliwn.