Mae graddfa chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf ers deuddeg mlynedd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd wedi gostwng i 1% ym mis Tachwedd, o 1.3% ym mis Hydref, wrth i’r archfarchnadoedd barhau i gadw prisiau’n isel a phrisiau petrol hefyd yn is.

Mae Banc Lloegr yn anelu at raddfa chwyddiant o 2% ac mae llywodraethwr y banc, Mark Carney, wedi cydnabod y bydd yn rhaid iddo ysgrifennu at y Canghellor George Osborne yn y misoedd i ddod i esbonio’r sefyllfa.

Ond mae disgwyl i’r cwymp mewn prisiau olew achosi i’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) syrthio hyd yn oed yn fwy.

Nid yw’r CPI wedi bod mor isel ers mis Medi 2002 ac mae wedi bod o dan y targed o 2% ers 12 mis yn olynol.

Dangosodd y ffigyrau diweddaraf bod prisiau bwyd a diodydd meddal wedi gostwng o 1.7% o’i gymharu â’r llynedd, y cwymp mwyaf ers 2002.