Plentyn yn cael ei gludo o safle'r ymosodiad yn Peshawar
Mae o leiaf 126 o bobl – 84 ohonyn nhw yn blant – wedi cael eu lladd mewn ymosodiad gan y Taliban ar ysgol sy’n cael ei rhedeg gan y fyddin yn ninas Peshawar yng ngogledd orllewin Pacistan, meddai’r heddlu.

Roedd tua 10 o ymosodwyr wedi dod i mewn i’r ysgol yn oriau mân y bore gan ddechrau saethu ar hap, dywedodd yr heddlu.

Mae’r gwarchae bellach wedi dod i ben a dywed yr heddlu bod yr ymosodwyr wedi cael eu lladd gan filwyr Pacistan.

Mae llefarydd y Taliban, Mohammed Khurasani, wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad mewn galwad ffôn i’r cyfryngau, gan ddweud fod chwech o hunan-fomwyr wedi cynnal yr ymosodiad i ddial ar y fyddin am lofruddio aelodau’r Taliban.

Dywedodd Prif Weinidog y DU David Cameron bod yr ymosodiad yn “frawychus”.

Mae dinas Peshawar wedi bod yn darged i nifer o ymosodiadau eraill yn y gorffennol.