David Cameron
Fe fydd David Cameron yn wynebu cwestiynau gan ASau heddiw ynglŷn ag ymdrechion y Llywodraeth i fynd i’r afael a’r bygythiad gan eithafwyr.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gael ei herio ynglŷn â mesurau gwrth-frawychiaeth dadleuol sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd a allai wahardd pobl o Brydain, sy’n cael eu hamau o fod yn jihadwyr, rhag dychwelyd i’r DU.
Wrth iddo ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyswllt mae disgwyl iddo hefyd gael ei holi am Fesurau Atal Brawychiaeth ac Ymchwilio (Tpims) sydd wedi cael eu cryfhau.