Banc y Co-operative
Mae Banc y Co-operative wedi methu prawf gan Fanc Lloegr i weld sut y byddai benthycwyr yn ymdopi â phwysau economaidd difrifol.

Mae’r prawf hefyd wedi codi pryderon am gyflwr ariannol Grŵp Bancio Lloyds ac RBS (Banc Brenhinol yr Alban).

Bydd yn rhaid i’r Co-op gael gwared a benthyciadau gwerth £5.5 biliwn erbyn diwedd 2018 tra bydd yn rhaid i’r RBS gyhoeddi gwerth £2 biliwn o fondiau cyfnewidiol.

Canfu Banc Lloegr y byddai dirwasgiad difrifol, gyda phrisiau tai’n disgyn 35%, yn dileu cyfalaf y Co-op oherwydd yr effaith ar ei eiddo masnachol a benthyciadau cartref.

Daeth y prawf i’r casgliad hefyd y byddai RBS a Lloyds yn agored i argyfwng o’r fath ond dim ond rhai gwelliannau a newidiadau i’w cynlluniau sydd angen eu gwneud. Mae’n rhaid i’r Co-op gyflwyno cynllun newydd.

Roedd y Co-op eisoes wedi cyfaddef na fyddai’n “syndod” os fyddai’n methu’r prawf gan ei fod yn dal i fynd trwy broses ail-adfer y banc ar ôl ei gwymp y llynedd pan ddaethpwyd o hyd i ddiffyg gwerth £1.5 biliwn yn ei gyfrifon.

Dywedodd llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney: “Roedd hwn yn brawf anodd. Ond dengys y canlyniadau fod craidd y system fancio’n fwy gwydn, fod ganddo’r nerth i barhau i wasanaethu’r economi hyd yn oed o dan straen difrifol, a bod hyder cynyddol yn y system.”