Prif Weinidog Awstralia Tony Abbott a'i wraig, Margie, yn gosod blodau ger safle'r gwarchae
Mae Prif Weinidog Awstralia wedi bod yn gosod blodau ger safle’r gwarchae yn Sydney ddoe lle bu farw tri o bobl.
Bu Tony Abbott a’i wraig Margie yn gosod blodau ger caffi Lindt Chocolat yn Martin Place lle cafodd dau o wystlon eu lladd ynghyd a’r dyn arfog fu’n cadw 17 o bobl yn gaeth yno ddoe.
Daeth y gwarchae i ben ar ôl 16 awr ar ôl i heddlu arfog fynd i mewn i’r adeilad.
Bu farw’r dyn arfog, y ffoadur o Iran, Man Horan Monis, 50, yn y digwyddiad.
Roedd gan Monis hanes o droseddau treisgar a diddordeb mewn eithafiaeth ond nid oedd ar restr yr heddlu o bobl sy’n cael eu hamau o frawychiaeth, meddai Tony Abbott.
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddau gafodd eu lladd yn y gwarchae, sef rheolwr y caffi Tori Johnson, 34, a’r gyfreithwraig, Katrina Dawson, 38.