Siân Gwenllian
Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Arfon yn etholiadau nesa’r Cynulliad wedi ymddiswyddo o fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) mewn protest am iddyn nhw hysbysebu dwy swydd haen uchel heb fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
Dywedodd Siân Gwenllian nad oedd amod wedi ei gynnwys chwaith oedd yn dweud fod yn rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu Cymraeg.
Cafodd y ddwy swydd eu hysbysebu gan gynnig cyflog o dros £80,000 yr un.
Cartrefi Cymunedol Gwynedd yw’r corff sydd bellach yn gyfrifol am y stoc tai oedd yn arfer bod ym meddiant Cyngor Gwynedd – tua 6,300 o gartrefi.
Dywed CCG eu bod wedi hysbysebu’r swyddi heb yr amod iaith am eu bod wedi cael trafferth recriwtio i swyddi lefel uchel a’u bod eisiau denu’r ymgeiswyr gorau posibl.
‘Dim dewis’
Meddai Siân Gwenllian fod y mater wedi cael ei drafod yn yr ail gyfarfod iddi ei fynychu fel aelod newydd o’r bwrdd.
Er iddi ddadlau yn erbyn y penderfyniad, doedd hi’n teimlo nad oedd ganddi ddewis ond ymddiswyddo fel mater o egwyddor pan benderfynodd y bwrdd gefnogi’r bwriad.
Meddai Sian Gwenllian: “Bydd penodi dau aelod o staff di-gymraeg ar y lefel uchaf yn newid holl ethos ieithyddol CCG, sy’n gyflogwr mawr yn lleol.
“Bydd cyfathrebu o ddydd i ddydd yn yr uwch dim reoli yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd hyn yn treiddio drwy’r corff i gyd ac fe fydd yn mynd yn gynyddol anodd i gynnal y Gymraeg fel iaith cyfathrebu mewnol.
“Mae’r rhan helaeth o staff CCG yn ddwyieithog. Mae dweud nad yw’r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer swyddi mor uchel yn hanfodol yn siŵr o gael effaith negyddol ar forâl y gweithlu cyfan gan gyflwyno negeseuon negyddol i’r rhai sy’n gobeithio symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd o fewn CCG.”
‘Hanfodol i barhad yr iaith’
Dywedodd Sian Gwenllian ei bod hi’n cwestiynu “pa mor gyfreithiol” yw torri polisi iaith Gymraeg y corff a’i bod hi ar ddeall bod Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i’r mater ar hyn o bryd.
Ychwanegodd: “Mae cynnal a datblygu’r ymrwymiad cryfaf posib i’r iaith Gymraeg gan fudiadau sector cyhoeddus yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg. Mae’n helpu creu gweithlu lleol dwyieithog hyderus, yn gwasanaethu cymuned ddwyieithog hyderus.
“Os mai prinder ymgeiswyr addas a phroblemau recriwtio sy’n cael y ‘bai’ am y newid yma mewn polisi, yna mae angen datrys y problemau hynny mewn ffordd wahanol ; mewn ffordd sydd ddim yn peryglu holl ethos Cymraeg y sefydliad.
“Rwy’n hynod o falch o bolisïau Cymraeg cadarn Cyngor Gwynedd ac roeddwn yn hyderus y byddai CCG yn cadw at y polisïau hynny y bu eraill yn ymgyrchu mor ddygn i’w sicrhau.”
‘Trafferth recriwtio’
Dywedodd Ffrancon Williams, prif weithredwr CCG : “Yn y gorffennol rydym wedi cael trafferth recriwtio i swyddi lefel uchel yn Cartrefi Cymunedol Gwynedd gydag amod iaith arnynt. Rydym o’r farn bod hyn yn ogystal â ffactorau eraill fel ein lleoliad ni yn atal pobl rhag ymgeisio.
“Rydym wedi hysbysebu dwy o’r swyddi y tro hwn heb yr amod er mwyn cynyddu ein siawns o recriwtio. Nid oedd yn benderfyniad hawdd o gwbl, ond yn un roeddwn i a’r bwrdd yn teimlo bod rhaid i ni ei gymryd er mwyn y busnes.
“Gyda chyfrifoldeb am 6,300 o dai mae’n rhaid i ni sicrhau bod y busnes yn gallu gweithredu yn effeithiol ac mae’r swyddi hyn yn hanfodol i ddyfodol CCG. Ein gobaith wrth gwrs yw penodi unigolion sy’n gallu’r iaith.”
Comisiynydd y Gymraeg
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg eu bod yn ymchwilio i’r mater: “Mae swyddogion y Comisiynydd wedi cwrdd â Phrif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd ac wedi gohebu â’r Cadeirydd ynghylch gofynion ieithyddol swyddi.
“Mae’r Comisiynydd yn parhau i gasglu tystiolaeth am y sefyllfa, ac felly nid yw’n briodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”