Profi'r dwr yn Llyn Padarn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi canfod mai gwaith trin dŵr Dŵr Cymru yn Llanberis oedd yn gyfrifol am ddifrod amgylcheddol yn Llyn Padarn ger Llanberis.

Daw’r cyhoeddiad wedi ymchwiliad o’r newydd gan CNC i’r difrod amgylcheddol yn Llyn Padarn sy’n dyddio nôl i fis Ebrill 2007.

Dywedodd yr asiantaeth bod y gwaith trin carthion wedi “cyfrannu’n sylweddol” at achosi difrod amgylcheddol i’r llyn, a’r difrod hwnnw wedi cyfrannu at y gordyfiant o algae yn 2009 – wnaeth olygu cau mynediad i’r llyn.

Roedd rhaid ail-gynnal ymchwiliad gwreiddiol CNC yn dilyn Adolygiad Barnwrol yn gynharach yn ystod y flwyddyn, am ei fod wedi edrych ar y difrod amgylcheddol o 2009 ymlaen yn hytrach na 2007.

Mae Dŵr Cymru eisoes wedi trefnu mesurau lliniaru yn dilyn camau gweithredu gan CNC, ond nawr, bydd angen i’r cwmni dŵr gymryd camau pellach.

Pysgod prin

Mae Llyn Padarn yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng Ngwynedd ac ers 1992 mae Ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont, Llyfni a Gwyrfai wedi bod yn cyhuddo Dŵr Cymru o lygru Llyn Padarn, sy’n gartref i’r torgoch – pysgodyn prin ac unigryw o oes yr iâ.

Ond fe ddaeth yr adroddiad 140 tudalen i’r casgliad nad oedd difrod amgylcheddol i boblogaeth gyfredol y torgoch a oedd yn dirywio cyn 2007.

Meddai Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gogledd a Chanolbarth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Drwy ein gwaith parhaus i ddiogelu’r torgoch a gwella’r llyn gyda’n partneriaid, byddwn yn parhau i ymdrechu i ddiogelu’r boblogaeth a’r cynefin y maent yn dibynnu arno.”