Alun 'Sbardun' Huws Llun: BBC Cymru
Mae un o gerddorion Cymreig amlycaf ei genhedlaeth, Alun ‘Sbardun’ Huws, wedi marw.
Roedd yn fwyaf adnabyddus fel un o aelodau gwreiddiol Tebot Piws a ffurfiwyd ar ddiwedd y 1960au.
Rhyddhaodd y grŵp, oedd hefyd yn cynnwys Dewi Pws, Stan Morgan-Jones ac Emyr Huws Jones, 4 EP rhwng 1969 a 1972.
Roedd Sbardun yn ran allweddol o’r grŵp wrth iddyn nhw fod yn rhannol gyfrifol am blanu hadau y sin roc Gymraeg ar ddechrau’r 1970au.
Bu hefyd yn aelod achlysurol o rai o grwpiau eraill mwyaf y cyfnod, gan gynnwys Ac Eraill a Mynediad am Ddim.
‘Llawn hiwmor’
Yn ôl un o’i ffrindiau hynaf, Mici Plwm, fu’n byw ym Mhenrhyndeudraeth gydag Alun ‘Sbardun’ Huws yn eu harddegau, roedd y cerddor yn llawn hiwmor ac yn poeni mwy am bawb arall na fo’i hun:
“Wedi i mi symud i Gaerdydd ac yntau i Gaerdydd, fi oedd rheolwr y grŵp Ac Eraill – a gan ein bod ni’n nabod ein gilydd mi roedd o wastad yn cael eistedd yn ffrynt y fan efo fi.
“Mi deithion ni i Lydaw unwaith ac yntau’n dweud, ‘paid â phoeni dw i’n medru siarad Ffrangeg’. A’r person cyntaf welson ni, dyma fo’n agor y ffenest ac yn gofyn ‘sgiws me, aves vous un map?’ – fel yr hysbyseb PG hefo’r mwncïod! Doedden ni methu stopio chwerthin.
“Ond dyna’r math o hiwmor ffraeth, agos atoch chi oedd ganddo. Ac mi roedd o’n poeni mwy am bobol eraill na fo’i hun.
“Ychydig wythnosau’n ôl, mi oeddwn i’n wael a 24 awr yn ôl fe yrrodd o decst i mi yn dweud ‘edrych ar ôl dy hun’.
“A dyna’r math o berson oedd o drwyddo draw.”
‘Athrylith’
Dywedodd un o gyflwynwyr cerddoriaeth Radio Cymru, Richard Rees, ar y Post Cynta bore ma fod canu cyfoes Cymraeg wedi colli “athrylith”.
Meddai Richard Rees: “Odd e wastad yn barod i siarad ac roedd ei frwdfrydedd e am gerddoriaeth yn anhygoel.
Ac roedd ei draed e wastad ar y ddaear, er gwaetha’r dalent anhygoel ma oedd ynddo fe.”
Ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru bore ma, dywedodd Iestyn Garlick, cyn aelod o’r grŵp Ac Eraill, y byddai’n “chwith” ar ei ôl.
Meddai: “Doedd o ddim yn hoff iawn o ganu, fe fydda’ fo yn canu, ond chwerthin oedd ei gryfder o.”
Ychwanegodd Dewi Pws Morris, cyn gyd-aelod o’r Tebot Piws, fod Cymru wedi colli talent “unigryw”.
“Roedd o’n foi unigryw iawn. Roedd e’n ’sgwennu am yr hen amser, fel caneuon gwerin bron. Roedd ganddo steil arbennig iawn.”
Dywedodd Dewi Pws ei fod yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn cynnal noson fyddai’n dathlu ei ganeuon.
‘Cyfraniad cyfoethog’
Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru: “Trist iawn oedd clywed neithiwr am farwolaeth Alun ‘Sbardun’ Huws.
“Bu’n gweithio i BBC Cymru am fwy na degawd a bydd ei gydweithwyr yn ei gofio fel aelod pwysig a chreadigol o’r tîm a dyn oedd wastad yn gynnes a hynaws ei gymeriad.
“Roedd ei gyfraniad fel cerddor hefyd yn allweddol. Mae nifer o’i ganeuon poblogaidd i’w clywed ar donfeddi Radio Cymru yn gyson ac mae ein diolch yn fawr iddo am ei gyfraniad cyfoethog i gerddoriaeth Gymraeg. Estynnwn ein cydymdeimlad i’w deulu a’i ffrindiau. ”