Cwmni teledu o Gymru sydd wedi cael caniatâd i gynhyrchu rhaglen ar hanes llwyddiant y ffilm animeiddiedig fwyaf poblogaidd mewn hanes, Frozen gan Disney.
Bydd y rhaglen, sydd wedi ei chynhyrchu gan gwmni Yeti o Gaerdydd sy’n rhan o Rondo Media, yn cael ei darlledu ar Channel 4 am 8yh ar Ddydd Nadolig.
Y digrifwr Dawn French sy’n lleisio stori ‘Frozen at Christmas’ ac fe fydd hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau o’r ffilm boblogaidd i blant.
Gyda chydweithrediad Disney, fe wnaeth y cwmni o Gaerdydd deithio i Los Angeles er mwyn cyfarfod cynhyrchwyr y ffilm.
A phan yn ôl yn eu milltir sgwâr, fe fu criw cynhyrchu Yeti yn siarad gyda chefnogwyr o’r ffilm mewn sesiwn ganu byw arbennig o ‘Frozen’ yn Neuadd Dewi Sant – oedd yn cynnwys perfformiad gan gôr Ysgol Howells, Llandaf.
Ffenonomen ‘Frozen’
Dywedodd cynhyrchydd y rhaglen, Tom Ware o Yeti: “Mae stori Frozen a’r effaith mae’r ffilm wedi ei chael ar gynulleidfaoedd hen ac ifanc dros y byd yn gyfareddol.
“Mae wedi torri tir newydd mewn cymaint o ffyrdd hyd yma – o’r cymeriadau benywaidd cryf a’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol i rannu fersiynau’r cyhoedd o’r caneuon.
“Roedd yn bleser pur gweithio ar y rhaglen ac rydym yn hynod o falch bod rhaglen deledu gafodd ei chreu yma yng Nghymru yn cael ei ddarlledu i gynulleidfa fawr ar draws y DU ar ddydd Nadolig ac eto ar Ionawr 1.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Channel 4 wrth sôn am y rhaglen: “Mae’r ffenomenon yn fwy na’r ffilm ei hun, mae am y cefnogwyr a’r effaith mae Frozen wedi ei gael ar bobol o bob oed.”