Pont Briwet
Mae cadeirydd bwrdd Theatr Harlech wedi awgrymu bod dyfodol y ganolfan mewn peryg yn sgil oedi gyda’r gwaith o ail-godi Pont Briwet gerllaw.

Dywedodd y cynghorydd Caerwyn Roberts, fod y theatr wedi gorfod canslo sioeau oedd wedi eu trefnu dros y misoedd diwethaf ac mae golwg360 ar ddeall bod cyfarfod brys wedi cael ei gynnal yn Harlech er mwyn trafod y sefyllfa.

“Mae’r theatr wedi cael ei heffeithio yn ddrwg iawn gan y gwaith o ail-adeiladu Pont Briwet,” meddai Caerwyn Roberts o Blaid Cymru.

Ychwanegodd nad oes bwriad i gau’r theatr ar hyn o bryd ond bod y gwaith wedi cael effaith “andwyol” ar nifer y bobol sy’n dod i wylio cyngherddau a sioeau.

Teithio

“Mae’r gynulleidfa yn mynd i feddwl ddwywaith am ddod yma o Bwllheli a’r cylch yna, fel ag yr oedden nhw cyn dymchwel y bont. Ac ar noson wlyb, dydach chi ddim yn gweld llawer o fai arnyn nhw am beidio teithio’r holl ffordd o gwmpas Maentwrog,” ychwanegodd Caerwyn Roberts.

“Oherwydd hynny mae’r gynulleidfa wedi disgyn yn sylweddol iawn yn ystod y cyfnod mae’r bont wedi bod ar gau.

“Does dim bwriad i gau’r theatr ar hyn o bryd ond mae’r gwaith ar y bont wedi cael effaith andwyol ar niferoedd y gynulleidfa”.

Yr oedi

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydd yn rhaid i fodurwyr ddisgwyl peth amser eto cyn gallu defnyddio’r ffordd newydd tros aber afon Dwyryd, wrth fynd o Benrhyndeudraeth i gyfeiriad Harlech.

Y bwriad gwreiddiol oedd agor ym mis Chwefror ond mae cyhoeddiad diweddara’ gan y contractwr, Hochtief yn dweud mai ym mis Mehefin 2015 y bydd y bont newydd gwerth £20 miliwn yn agor bellach.